Gall mynd i banig fod yn frawychus – i’r person sy’n mynd i banig ac unrhyw un sy’n ei weld yn digwydd.

Er y gall mynd i banig fod yn ddwys iawn ac yn llethol, nid yw’n beryglus.  Mae ffyrdd o gadw rheolaeth a’ch helpu i deimlo’n well.

Sut mae pyliau o banig yn gwneud i chi deimlo?

Mae rhai pobl yn cael pyliau o banig.  Mae pyliau o banig yn fersiwn eithafol o banig ac yn peri pryder.  Gallai deimlo’n fwy dwys na phryder arferol, a phara am fwy o amser neu ddigwydd yn ddirybudd.

Gall pyliau o banig deimlo fel:

  • Bod eich curiad calon yn rasio
  • Gallech deimlo’n benysgafn, fel pe baech ar fin llewygu efallai
  • Rydych chi’n boeth ac yn chwyslyd, neu’n oer ac yn crynu
  • Rydych chi wedi datgysylltu oddi wrth eich corff
  • Rydych chi eisiau dianc
  • Mae gennych gur pen
  • Mae eich clustiau’n canu
  • Rydych chi’n teimlo fel nad ydych yn gallu anadlu digon neu nad ydych yn gallu dal eich anadl

Mae’r rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud, ond gallant bara hyd at awr.

Mae rhai pobl yn eu cael yn aml iawn ond gallant hefyd ddigwydd unwaith yn unig.

Os ydych chi’n mynd i banig neu’n cael pyliau o banig yn aml, siaradwch ag oedolyn dibynadwy, fel eich rhieni / gofalwr neu’ch meddyg.

Mae pyliau o banig yn frawychus iawn ond nid ydynt yn beryglus.  Ni fyddant yn eich brifo ac mae’n annhebygol y byddai angen i chi fynd i’r ysbyty os cewch rai.  Bydd y symptomau’n pasio, er gallech deimlo’n flinedig wedyn.

Beth galla i ei wneud?

Mae pyliau o banig yn frawychus ond mae’n bwysig peidio â gadael i’ch ofn o byliau o banig eich rheoli.

Unwaith eto, nid yw pyliau o banig yn beryglus a byddant bob amser yn pasio.

During a panic attack

  •  Canolbwyntiwch ar eich anadlu – peidiwch â dal eich anadl!
  • Ceisiwch gau eich llygaid.
  • Anadlwch i mewn yn araf drwy eich trwyn wrth i chi gyfrif i bump. Anadlwch allan yn araf drwy eich ceg gan gyfri i lawr i 1.
  • Gwnewch hyn am gyhyd ag sydd angen i chi.
  • Mae gan Childline ymarferion anadlu eraill yma

Sut i atal pyliau o banig yn y dyfodol

  • Gofynnwch i’ch rhieni / gofalwr eich helpu gydag ymarferion anadlu. Gallant helpu i atal a rheoli pyliau o banig
  • Ceisiwch fyw’n iach – bwyta’n dda ac ymarfer corff

Efallai y gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol fel nyrs ysgol neu feddyg teulu.

Os yw panig yn achosi heriau yn eich bywyd bob dydd neu os yw’n gwaethygu dros amser, dylech siarad â’ch meddyg.  Gall eich helpu i reoli eich panig neu eich cyfeirio at rywun arall a all helpu, fel therapydd.