Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae ein holl wybodaeth am Gysylltiadau Cymunedol ar un dudalen.
Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r adrannau hynny.

Beth yw presgripsiynu cymdeithasol?
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl ifanc â grwpiau, gweithgareddau a chyfleoedd o fewn eu cymunedau lleol, i hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.
Gallai hyn gynnwys:
- Ymuno â grŵp ieuenctid neu glwb chwaraeon
- Dod o hyd i ddiddordeb newydd
- Gwirfoddoli
- Gwybodaeth a chyngor
- Defnyddio gwasanaethau ac offer eraill

Cyn i ni ddechrau ar ein gwasanaeth, fe wnaethon ni siarad gyda llawer o bobl ifanc am ein cynlluniau.
Dywedon nhw nad oedden nhw’n hoffi’r term ‘presgripsiynu cymdeithasol’ am ei fod yn swnio fel bod rhywun yn dweud wrthyn nhw beth oedd ei angen arnyn nhw yn hytrach na gwrando arnyn nhw, dod i’w nabod nhw a chydweithio i lunio cynllun lles.
Roedden nhw’n hoffi’r syniad o gael eu cysylltu â gweithgareddau yn eu cymuned leol a chysylltu â phobl eraill.
Dyma pam y dewison ni’r enw Cysylltiadau Cymunedol i egluro’n well sut allwn ni helpu.
Pwy ydyn ni?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi derbyn arian gan Charities Together y GIG i gynnal peilot presgripsiynu cymdeithasol o fewn y Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r gwasanaeth peilot hwn ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy’n wynebu heriau lefel isel i’w lles emosiynol.
Mae’r prosiect yn gyfle i brofi a yw gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yn ddefnyddiol ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, ac a yw’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles emosiynol.
Cafodd ein gwasanaeth ei enw – Cysylltiadau Cymunedol – mewn ymateb i adborth gan bobl ifanc.
Beth yw Cysylltydd Cymunedol?
Mae Cysylltydd Cymunedol yn berson sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i nodi eu nodau, datblygu cynllun lles, a chael mynediad at gyfleoedd yn eu cymuned.
Mae Cysylltydd Cymunedol:
- Yn blaenoriaethu eich anghenion, gwerthoedd, profiadau a barn
- Yn canolbwyntio ar ‘beth sy’n bwysig’ i chi
- Yn adeiladu perthynas a chydweithio gyda chi i nodi eich nodau
- Yn meddu ar wybodaeth dda am wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau lleol sy’n hyrwyddo lles
- Yn gwirio gyda chi’n rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael mynediad at weithgareddau a chefnogaeth sy’n gweithio i chi
Dyma Pooja a Lauren – ein Cysylltwyr Cymunedol hyfryd! – a Holly – ein Arweinydd y Prosiect.
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Os cewch eich derbyn i’r gwasanaeth, bydd eich Cysylltydd Cymunedol yn cysylltu â chi am sgwrs ac i drefnu amser i gwrdd.
Gallai hyn fod yn yr ysgol, yn eich cartref neu allan yn y gymuned (er enghraifft, mewn caffi neu barc) – lle bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus a diogel!
Pan fyddwn ni’n cwrdd, byddwn yn siarad ac yn dod i’ch nabod, gan gynnwys beth sy’n digwydd yn eich bywyd chi ar hyn o bryd. Gallai rhai o’r pethau y gallem siarad amdanynt gynnwys:
- Beth rydych yn hoffi ei wneud
- Unrhyw beth y gallwn ni helpu ag ef
- Sut rydych chi’n teimlo
- Pethau yr hoffech chi weithio arnynt – eich nodau
- Unrhyw heriau y gallech fod yn eu hwynebu
Yn seiliedig ar ein sgwrs, byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio cynllun lles. Bydd hwn yn unigryw i chi. Gallai gynnwys eich cysylltu â grwpiau a gweithgareddau yn eich ardal leol. Os hoffech chi, gallen ni ddod draw gyda chi neu eich helpu i gyrraedd yno.
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd am hyd at dri mis. Byddwn yn dechrau cwrdd unwaith yr wythnos, ac ar ôl hyn byddwn yn siarad â chi am ba mor aml yr hoffech chi gwrdd.
Beth mae pobl ifanc yn ei feddwl hyd yma?
Treuliasom sawl wythnos yn ymweld â grwpiau ieuenctid ac yn defnyddio llwyfan ymgysylltu ar-lein i glywed barn pobl ifanc.
Roedd gennym ddiddordeb yn:
- beth roedden nhw eisoes yn ei wybod am bresgripsiynu cymdeithasol
- beth roedden nhw’n meddwl o’r syniad
- sut gallwn redeg y gwasanaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc
Ysgrifennom adroddiad ar hyn ym mis Rhagfyr 2022 (gallwch lawrlwytho hwn isod).

Sut galla i gymryd rhan?
Byddwn yn parhau i wrando ar bobl ifanc wrth i ni ddatblygu ein gwasanaeth – mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
Bydd adborth gan bobl ifanc yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i ddiwallu anghenion pobl ifanc.
Bydd y llwyfan ymgysylltu ar-lein yn parhau i fod ar waith trwy gydol y prosiect.
Rydym yn bwriadu:
- Gofyn cwestiynau newydd
- Cysylltu’r llwyfan â’n cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu nifer yr ymatebion
Byddem wrth ein bodd yn clywed beth rydych chi’n ei feddwl – p’un a ydych chi’n defnyddio ein gwasanaeth neu â diddordeb mewn ffyrdd o ofalu am eich lles!
Mae amrywiaeth o weithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt – bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw ond yn cymryd 2-3 munud.
Rydym wir yn gwerthfawrogi unrhyw adborth rydych chi’n fodlon ei rannu gyda ni.
Dyddiadur lles
Rydym wedi datblygu dyddiadur lles.
Fe’i cynlluniwyd i fod yn estyniad o’r amser rydych chi’n ei dreulio gyda’ch Cysylltydd Cymunedol.
Gobeithiwn y bydd yn offeryn defnyddiol i chi, a fydd yn eich galluogi i fyfyrio ar eich taith lles.
Pan fyddwn yn gweithio gyda chi, byddwn yn gofyn a fyddai’n well gennych ddefnyddio copi papur neu gopi digidol. Gallwch lawrlwytho’r copi digidol isod.
Er ein bod wedi dylunio hwn ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio Cysylltiadau Cymunedol, rydym yn annog unrhyw un sydd am weithredu i wella ei les i gael golwg ar y wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael.
Rhowch eich barn yma.
Grwpiau a sefydliadau
Celfyddau
Chwaraeon a Ffitrwydd
Grwpiau/Gwasanaethau Ieuenctid
Youth groups are a great way to meet other people with similar interests to you and to try out new activities.
Grwpiau iechyd meddwl
Grwpiau eraill
Cwestiynau Cyffredin
Mae ein gwasanaeth yn newydd sbon – felly rydyn ni’n gwybod efallai y bydd gennych rai cwestiynau am sut mae’n gweithio.
Rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau cyffredin isod.
Os oes gennych ragor, Cysylltwch â Ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch ateb.