Mae tair ffordd i blant a phobl ifanc gael gafael ar gymorth ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg: 

  1. Tryw eich ysgol
  2. Trwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol
  3. Trwy’r Pwynt Mynediad Sengl

Mae’r pwyntiau mynediad hyn i gyd yn gysylltiedig. 

Os bydd plentyn, person ifanc neu deulu yn ceisio cymorth trwy un llwybr ond efallai bod un arall yn fwy addas ar gyfer eu sefyllfa, byddwn yn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar hwn heb unrhyw ymdrech ychwanegol – rydym yn galw hyn yn ddull ‘dim drws anghywir’.

Nid oes unrhyw fath o gymorth yn well nag un arall – mae’r cyfan yn dibynnu ar yr hyn sy’n diwallu anghenion person orau a’r hyn y mae am ei gyflawni.

Er bod gwasanaeth arbenigol yn bwysig, mae llawer o leoedd eraill i fynd am gymorth.

Dylai pawb y mae plentyn neu berson ifanc yn rhyngweithio â nhw – boed hynny’n deulu, athro neu oedolyn arall y gallant ymddiried ynddo – gadw eu lles emosiynol wrth wraidd popeth a wnânt.

Mae fideo defnyddiol yn esbonio hyn isod. 

Cymorth trwy eich ysgol 

Mae athrawon a staff ysgol eraill yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu hyfforddi i ddeall iechyd meddwl yn well fel eu bod yn gallu cefnogi a gwrando ar blant a phobl ifanc. 

Mae’r unigolion hyn yn gweld plant a phobl ifanc bob dydd ac yn eu hadnabod yn dda, fel y gallant eu cefnogi ar eu taith lles (os byddai hyn o gymorth). 

  • Mae gan bob ysgol nyrs ysgol. Gall plant a phobl ifanc siarad â’u nyrs ysgol am unrhyw beth y maent ei eisiau – gan gynnwys eu lles emosiynol. .
  • Os ydych rhwng 11-19 oed, gallwch hefyd anfon neges destun at nyrs ysgol ar 07520 615 718 yn ystod oriau ysgol gyda Chat Health.
  • Bydd gan bob ysgol uwchradd hefyd gwnselydd ysgol.
  • Bydd pob ysgol uwchradd yn cael amser gydag ymarferydd iechyd meddwl bob wythnos. Mae’r ymarferwyr hyn yn rhoi cyngor i staff ysgol ond gallant hefyd weithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol. Bydd hyn naill ai’n sesiwn un i un neu’n sesiwn grŵp yn dibynnu ar anghenion y bobl ifanc yn yr ysgol.

Os oes gan deuluoedd unrhyw gwestiynau am dderbyn cymorth drwy’r ysgol, rydym yn argymell eu bod yn siarad ag Arweinydd Lles eu hysgol i gael gwybod mwy.

Noder: Rydym yn newid sut olwg sydd ar ein cynnig i ysgolion er mwyn diwallu anghenion plant, pobl ifanc a staff ysgol yn well.

Cymorth trwy eich gwasanaeth cymorth cynnar lleol 

Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn darparu gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar amrywiaeth o bynciau a allai effeithio ar deuluoedd.

Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, cydberthnasau gyda’ch teulu a cholli person pwysig yn eich bywyd:

Mae’r rhain yn wahanol gan eu bod yn cael eu rhedeg gan y ddau gyngor gwahanol – ond maen nhw’n cynnig yr un gwasanaeth.

Ble bynnag mae teulu yn byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnynt ac yn asesu eu hanghenion. Byddant naill ai’n cefnogi’r teulu’n uniongyrchol neu’n eu cyfeirio at wasanaeth a all helpu gydag anghenion penodol.

Mae ymarferwyr iechyd meddwl yn gweithio gyda staff cymorth cynnar i’w cynghori ac i roi cymorth i blant a phobl ifanc ar gyfer eu lles emosiynol os mai dyma sydd ei angen ar y teulu.

Cymorth trwy’r Pwynt Mynediad Sengl  

Mae’r Pwynt Mynediad Sengl yn galluogi plant a phobl ifanc i gael gafael ar wasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl arbenigol sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ar hyn o bryd, dim ond rhai mathau o weithwyr proffesiynol all wneud atgyfeiriad i’r Pwynt Mynediad Sengl, gan gynnwys:

  • eich meddyg teulu
  • ymwelydd iechyd eich teulu
  • eich gweithiwr cymdeithasol

Ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad, bydd tîm o weithwyr proffesiynol yn cyfarfod i benderfynu pa dîm sydd yn y sefyllfa orau i roi’r cymorth sydd ei angen ar y plentyn neu’r person ifanc. Efallai y byddant yn cysylltu â’r atgyfeiriwr a’r teulu i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn yr hoffai’r plentyn neu’r person ifanc ei gyflawni i helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Mae llawer o wasanaethau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol.

Mae’n bosibl y gallwch dderbyn cymorth sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion yn eich ysgol, gwasanaeth cymorth cynnar lleol neu gyda sefydliad arall – os yw hynny’n wir, byddwn yn rhoi gwybodaeth ichi gysylltu â nhw, neu byddwn yn gofyn ichi a ydym yn gallu gwneud atgyfeiriad iddynt ar eich rhan.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, byddwn yn ystyried hyn ac yn sicrhau y bydd y cymorth yr ydych yn ei dderbyn yn eich helpu i gyflawni eich nodau.