Yn union fel y buasech yn annog eich plentyn i lanhau ei ddannedd neu ymarfer bob dydd, mae camau y gallwn oll eu cymryd bob dydd i edrych ar ôl ein lles emosiynol a’n hiechyd meddwl.

Bydd y syniadau hyn o Gwnewch Iddo Gyfrif yn helpu llawer o blant a phobl ifanc. Bydd ar rai pobl angen mwy o gefnogaeth – ac y mae hynny’n iawn hefyd. Rydym yma i helpu!

O ddydd i ddydd

Pum ffordd at les

Mae ymchwil yn dangos fod pum peth syml iawn y gallwch wneud fel rhan o’ch bywyd bob dydd i adeiladu gwytnwch, hybu eich lles a lleihau eich risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

Cymerwch gip ar y fideo rydym wedi ei ddatblygu gyda’n Bwrdd Ieuenctid isod am fwy o wybodaeth.

Meddyliwch am sut y gallwch ymgorffori’r pum ffordd at les ym mywyd eich teulu – efallai y byddai modd i chi wynebu’r her newydd hon gyda’ch gilydd, er mwyn gwella lles emosiynol pawb.

Dyma aelodau o’n Bwrdd Ieuenctid yn dweud mwy wrthym am y pum ffordd at les.

Siaradwch am sut yr ydych yn teimlo

Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.

Gallwch ddangos hyn trwy siarad am sut mae mynd am dro yn yr awyr iach yn clirio eich pen, neu sut y mae cael sgwrs gyda’ch cyfeillion yn gyfle i rannu’r ffordd yr ydych yn teimlo.

Ceisiwch gael rhywfaint o amser bob dydd i siarad â’ch plentyn neu’r person ifanc am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau, heb unrhyw beth arall i dynnu sylw fel gwaith cartref, y teledu neu ffonau.

Mae teimlo i fyny ac i lawr yn rhywbeth sy’n dod i’n rhan i gyd – weithiau, rydym yn teimlo’n grêt, weithiau dydyn ni ddim. Gall hyn gael ei achosi gan ddigwyddiadau mewn bywyd fel swydd neu ysgol newydd, newid mewn perthynas neu golli rhywun sy’n annwyl i ni.

Ceisiwch dawelu meddwl eich plentyn a dweud ei bod yn normal teimlo’n wahanol ar wahanol adegau – a bod siarad am deimladau anodd gyda phobl rydym yn ymddiried ynddynt yn rhywbeth gwirioneddol ddewr i’w wneud.

Modelu arferion da

Mae plant a phobl ifanc yn aml yn dysgu o’r hyn maent yn weld gartref ac yn yr ysgol.

Mae’n haws o lawer iddynt ddeall sut bethau yw arferion da os gwelant sut yr ydych chi yn edrych ar ôl eich lles emosiynol eich hun. Gallai hyn fod mor syml â neilltuo amser i chi’ch hun i gael bath, cwrdd â ffrind neu ddarllen llyfr – beth bynnag rydych yn hoffi ei wneud i ofalu amdanoch eich hun.

Pan fyddwch yn siarad â’ch plentyn neu berson ifanc, fe allech ddweud wrthynt pam eich bod yn hoffi’r gweithgareddau hyn, sut y maent yn gwneud i chi deimlo, ac efallai awgrymu gweithgareddau yr hoffent hwy eu gwneud er mwyn gofalu am eu lles.

Sylwch ar newidiadau mewn ymddygiad

Chi sy’n adnabod eich plentyn neu berson ifanc orau – hyd yn oed os nad ydynt yn dweud wrthoch chi mewn geiriau, fwy na thebyg y byddwch yn sylwi os ydynt yn ymddwyn yn wahanol i’r arfer.

Mae gwybod pa ymddygiad sy’n normal i aelodau’ch teulu yn ei gwneud yn haws sylwi pan fydd rhywbeth yn newid, a gall hyn fod yn arwydd fod rhywun mewn trafferthion.

Gall dangos eich bod wedi sylwi bod rhywbeth o’i le hefyd ei gwneud yn haws cychwyn sgwrs gyda’ch plentyn neu berson ifanc os ydych yn pryderu.

Meddyliwch am y darlun ehangach

Gall rhai pethau sy’n edrych fel her iechyd meddwl fod yn ganlyniad i bethau eraill sy’n digwydd yn ein bywydau. Mae’n bwysig cofio, os yw plentyn neu berson ifanc yn ymddwyn fel hyn, eu bod yn ymateb, efallai, mewn ffordd normal i ryw brofiad sy’n dod i’w rhan.

Nid yw hyn yn golygu na all eich plentyn neu berson ifanc gael cefnogaeth: y cyfan mae’n ei olygu yw y gall y ffordd yr ydym yn siarad amdano fod fymryn yn wahanol. Gall olygu hefyd fod gwasanaeth neu fudiad arall mewn gwell lle i gefnogi eich plentyn neu berson ifanc.

Os felly, byddwn yn esbonio hyn i chi ac yn sôn wrthych am wasanaethau eraill a all fod ar gael i’ch helpu chi a’ch teulu.

Pan fydd pethau’n anodd

Mae’n normal teimlo uchafbwyntiau a chyfnodau isel wrth i ni symud trwy fywyd, ac yn anffodus, gall hyn weithiau gael effaith negyddol ar ein lles emosiynol a’n hiechyd meddwl. Bydd pawb yn ymateb yn wahanol, ac efallai y bydd ar rai pobl angen mwy o gefnogaeth nag eraill – mae profiad pawb yn ddilys.

Dyma rai syniadau os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc yn eich bywyd.

Gadewch i’ch plentyn neu berson ifanc wybod pam eich bod yn pryderu. Gallwch sôn am y newidiadau rydych wedi sylwi arnynt – er enghraifft, efallai eich bod wedi sylwi eu bod yn treulio llai o amser gyda’i ffrind gorau.

Os nad ydych eisiau siarad, gallech ddweud y byddwch yn hapus i sgwrsio petai hynny’n helpu, ond gallech hefyd gynnig edrych ar wefannau am help neu eu helpu i ddod o hyd i rywun arall i siarad, os mai dyma eu dymuniad.

Efallai y bydd yn haws i chi’ch dau siarad a rhannu teimladau wrth wneud gweithgaredd y byddwch yn wneud yn aml, trwy sefyll neu eistedd nesaf at eich gilydd yn hytrach na chael sgwrs wyneb yn wyneb.

Wrth iddynt dyfu a dod yn fwy annibynnol, nid yw pobl ifanc yn wastad yn chwilio am rywun arall i ddatrys eu problemau, ond am rywun y gallant rannu eu teimladau â hwy ac a fydd yn gwrando arnynt heb farnu.

Os ydych yn dal i boeni, argymhellwn eich bod yn siarad â’ch meddyg teulu neu rywun o’r ysgol am gymorth. Gallant hwy ddweud wrthych am y gefnogaeth sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Gall eich plentyn fod yn rhan o’r drafodaeth hon. Hwy yw’r arbenigwyr amdanynt eu hunain, a gallant ddweud beth sy’n digwydd yn eu bywydau a sut y mae’n effeithio arnynt. Bydd hyn o gymorth mawr i ni i gefnogi eich plentyn os gwneir cyfeiriad at Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl.

Os oes gennych bryderon difrifol am les eich plentyn, cysylltwch â’r gwasanaeth Neges Argyfwng Meddyliau Ifanc trwy anfon neges testun YM at 85258 i gael cefnogaeth 24/7 gan wirfoddolwyr hyfforddedig.

Os na allwch gadw eich plentyn, eich hun neu eraill o’ch cwmpas yn ddiogel, ffoniwch 999 neu ewch yn syth i’r Adran Frys.

Am fwy o wybodaeth, ewch at Rwyf angen help nawr!

Mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn edrych ar ôl eich hun pan fyddwch chi a’r teulu yn wynebu amser caled.

Bwriwch olwg ar y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yma.