Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
26 July 2022
emPOWER Programme
Emotional and wellbeing support for children and young people in Cardiff and the Vale.
Jane Reid ydw i. Rwy’n ymgynghorydd sy’n cefnogi Partneriaeth Dechrau Da Caerdydd a’r Fro i gyflawni’r Rhaglen EmPOWER.
Mae gen i gefndir mewn ffisiotherapydd plant ac rwyf bob amser wedi teimlo’n frwd dros wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae gen i gefndir clinigol, arweinyddiaeth a rheoli rhaglenni hefyd gan weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn bennaf, felly nid yw’n syndod fy mod wedi neidio ar y cyfle i fod yn rhan o’r daith gyffrous hon.
Rhaglen EmPOWER
Mae’r Rhaglen emPOWER yn rhaglen aml-asiantaeth* ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sydd angen cymorth iechyd a lles emosiynol.
- Mae enw’r rhaglen emPOWER (grymuso lles emosiynol) wedi’i greu ar y cyd â phobl ifanc
Mae amlasiantaeth yn golygu bod gwahanol sefydliadau’n cydweithio am yr un rheswm – i helpu plant a phobl ifanc. Mae’r timau amlasiantaethol yn cynnwys
- Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg; Gwasanaethau Plant, Addysg a Chymorth Cynnar
- Gwasanaethau Iechyd
- Y trydydd sector
Ble ro’n ni?
Un o’m tasgau cyntaf oedd deall profiadau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n cefnogi iechyd a lles emosiynol, a oedd yn golygu gwrando ar farn pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.
Roedd hyn hefyd yn cynnwys deall yr hyn sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a lle mae cyfleoedd i wella pethau.
Mewn ffordd, roedd hi’n teimlo ychydig fel jig-so mewn blwch heb y darlun mawr bryd hynny!
Roedd rhai darnau y ffordd iawn i fyny, doedd eraill ddim a doedden ni ddim yn gwybod a oedd unrhyw ddarnau ar goll.
Roedd hyn yn golygu nad oedd darlun ar y cyd o’r gwasanaeth Iechyd Emosiynol a Lles ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc ac nid oedd y bylchau’n glir.
Cafodd y darnau eu troi’r ffordd iawn i fyny dros gyfnod drwy drafod, cynnal gweithdai a chael adborth gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Roedd llawer o’r darnau hyn eisoes yn hysbys ond roedd yn bwysig eu tynnu at ei gilydd i gael y darlun ehangach ac i weld pa ddarnau oedd ar goll.
Er mwyn cael darlun clir ar y blwch, roedd yn hanfodol ein bod yn gwrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y gwasanaethau. Mae’r isod yn crynhoi’r hyn a glywyd ac yn sail i’r rhaglen.
Beth oedd o’i le?
- Yn aml, mae’n rhaid i deuluoedd ailadrodd eu straeon a chael sawl asesiad cyn cael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt; mae angen i’r cyfathrebu rhwng gwasanaethau fod yn well
- Mae’r rhestrau aros i gael mynediad at wasanaethau yn hir
- Prin yw’r ddealltwriaeth o rolau a llwybrau i mewn i wasanaethau a thrwyddynt
- Mae gwasanaethau’n aml yn ddigyswllt ac mae nifer o bwyntiau mynediad a all fod yn ddryslyd
Beth mae pobl ifanc ei eisiau?
- There is a need for increased joint working at assessment and early intervention stages
- There is a need to move upstream from a medical/illness model to a wellness/prevention model
- Mae pobl ifanc am allu cael gafael ar wasanaethau’n uniongyrchol a chael dewis sut a phryd y mae hyn yn digwydd
- Maent am gael gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan anghenion – NID diagnosis neu drothwyon
- Mae angen cymorth ar bobl ifanc tra’n aros i weld gweithwyr proffesiynol
- Mae angen mwy o gydweithio ar gamau asesu ac ymyrraeth gynnar
- Mae angen symud i ffwrdd o fodel meddygol/salwch i fodel lles/atal
Roedd hyn hefyd ar adeg pan oedd angen cynyddol am gymorth a oedd wedi’i waethygu gan effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’r timau sy’n eu cefnogi.
Ble ydyn ni?
Ceir ymrwymiad, brwdfrydedd a llawer o enghreifftiau o arfer da ledled Caerdydd a Bro Morgannwg lle mae gwasanaethau eisoes yn ymgorffori’r egwyddorion hyn.
Dyma rai enghreifftiau:
- Y trydydd sector; Gweithiwr cymorth i rieni sy’n darparu cymorth 1:1 i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau arbenigol e.e. gweithredu fel eiriolwr, meddwl sut y gellir cefnogi plant a phobl ifanc, meddwl am eu hanghenion emosiynol eu hunai
- Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd a gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl cleifion mewnol yn gweithio gyda’i gilydd trwy rôl gweithiwr cymdeithasol cydlynydd i gefnogi rhyddhau’r plant hynny sydd mewn argyfwng yn gynnar ac yn ddiogel
- Erbyn hyn, mae gan dimau Cymorth Cynnar yng Nghaerdydd a’r Fro ymarferwyr Iechyd Meddwl yn eu timau sy’n galluogi ymarferwyr mewn timau Cymorth Cynnar i “ddal ymlaen” yn hytrach na chyfeirio ymlaen drwy sgyrsiau myfyriol, tra hefyd yn galluogi camu i fyny heb fod angen atgyfeiriadau ychwanegol
- Ym maes addysg, mae timau cymorth ymddygiad wedi cael eu disodli gan ‘Dîm Iechyd a Lles emosiynol‘ (Caerdydd) a’r Gwasanaeth Ymgysylltu (Y Fro) sy’n defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau ymlyniad, trawma datblygiadol a PPNau sy’n defnyddio dull mwy cynhwysol a rhagweithiol o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol.
Rydym wedi cynnal sawl Digwyddiad Ysbrydoliaeth a Momentwm i:
- rannu arfer da,
- herio ffyrdd o feddwl a
- dechrau llunio’r hyn sydd angen digwydd nesaf i ddechrau rhoi’r jig-so at ei gilydd, ac mae hyn yn gysylltiedig â’r Fframwaith NYTH cenedlaethol a’r angen am berthnasoedd sy’n Meithrin, Grymuso, Diogel a Dibynadwy.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn y rhain yn cynnwys unigolion ar draws y meysydd Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Plant, Cymorth Cynnar a’n partneriaid yn y Trydydd Sector
Yn seiliedig ar adborth, arsylwi arferion cyfredol ac adolygu arfer gorau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, y blaenoriaethau allweddol yw:
- Darparu ymyriadau cynharach a gwasanaethau ataliol i symud i fodel lles
- Ei gwneud yn haws i blant, pobl ifanc a theuluoedd gael gafael ar y cymorth cywir yn gyson heb fod angen ailadrodd eu straeon nac atgyfeiriadau newydd
- Galluogi trafodaethau amlasiantaethol cynharach pan fo hyn o fudd i’r unigolyn
- Lleihau’r galw ar wasanaethau arbenigol iawn;
Y newyddion gwych yw bod yr angen am y rhaglen hon yn cael ei gydnabod yn Rhanbarthol ac yn Genedlaethol a bod pethau y gellir eu cyflawni yn y rhaglen wedi’u cymeradwyo drwy’r Grŵp Cyflawni Iechyd Emosiynol a Lles a’r Bartneriaeth Dechrau’n Dda.
Jane Reid
Ymgynghorydd Cyswllt Attai