Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae angen help arna i nawr
Rydym oll yn teimlo’n orbryderus neu’n bryderus weithiau. Gorbryder yw’r teimlad a gewch pan fyddwch yn poeni neu’n ofnus am rywbeth.
Mae’n arferol teimlo’n bryderus pan fydd newidiadau mawr yn digwydd yn eich bywyd, fel dechrau ysgol newydd.
Gall y teimladau hyn fod yn broblem os nad ydynt yn mynd i ffwrdd ac maent yn ei wneud yn anodd i chi wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, fel unrhyw hobïau neu weld eich ffrindiau. Gallai hyn wneud i chi deimlo’n drist neu’n isel.
Sut deimlad yw e?
Gall gorbryder neu bryder:
- Teimlo’n annifyr ac yn anodd stopio
- Teimlo’n gryf iawn ac yn para am amser hir
- Gwneud hi’n anodd anadlu, gwneud i chi deimlo’n sâl neu roi cur pen i chi
- Gwneud i chi roi’r gorau i wneud pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus
- Gwneud hi’n anodd i chi gysgu
- Ei gwneud hi’n anodd i chi wneud y pethau rydych fel arfer yn mwynhau gwneud
Bydd y teimladau hyn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
Sut alla i gael help
Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu gyda theimladau o bryder:
- Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am sut rydych chi’n teimlo
- Ysgrifennwch i lawr neu tynnwch lun yn dangos sut rydych chi’n teimlo
- Rhowch gynnig ar rai o’r gweithgareddau hyn i’ch helpu i deimlo’n well
- Gofynnwch am help ar-lein o’n rhestr o wefannau a argymhellir
Adnoddau defnyddiol
Adnoddau defnyddiol i blant a allai fod yn teimlo’n bryderus neu’n orbryderus: