Mae colli rhywun sy’n bwysig i chi yn un o heriau mwyaf bywyd, ni waeth beth y bo’ch oedran. Gelwir hyn yn ‘brofedigaeth‘.

Gall colli anwylyd fod yn anoddach fyth os nad ydych erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn o’r blaen.

Gall hefyd deimlo’n unig os nad oes yr un o’ch ffrindiau wedi mynd trwy unrhyw beth tebyg a ddim yn deall nac yn gwybod beth i’w ddweud neu ei wneud i’ch helpu.

Sut deimlad yw e?

Pan fydd rhywun yn marw, mae’n arferol profi galar.

Bydd pawb yn galaru’n wahanol. Nid oes unrhyw reolau ynghylch pa emosiynau y dylech eu teimlo nac am ba hyd.

Mae’n gyffredin iawn i alar gynnwys cymysgedd o’r canlynol:

  • Tristwch
  •  Sioc, yn enwedig os oedd y farwolaeth yn annisgwyl
  •  Rhyddhad, pe bai’r farwolaeth yn dilyn cyfnod hir o salwch
  •  Euogrwydd
  •  Dryswch
  •  Dicter
  •  Gorbryder
  •  Anobaith a diymadferthedd
  • Iselder

Bydd y teimladau hyn ar eu dwysaf yn y dyddiau a’r wythnosau cynnar ar ôl i chi golli rhywun. Gydag amser, bydd yr emosiynau dwys hyn yn dechrau lleihau.

Er bod galar yn fwyaf cyffredin pan fydd rhywun wedi marw, gall unrhyw golled achosi galar, gan gynnwys:

  •  Cyfeillgarwch neu berthynas yn chwalu
  •  Colli swydd
  •  Camesgoriad
  •  Marwolaeth anifail anwes neu anifail rydych chi’n ei garu
  •  Pan fo rhywun rydych chi’n ei garu a’ch ymddiried ynddo yn ddifrifol sâl

Beth galla i ei wneud?

Mae siarad am eich teimladau yn rhan bwysig o wella ar ôl marwolaeth anwylyd.

Eich dewis chi yn llwyr yw pwy i siarad â nhw gan mai dim ond chi sy’n gwybod sut rydych chi’n teimlo.

  • Gall aelod o’ch teulu fod yn berson da i siarad ag ef/â hi am eich teimladau os ydych wedi colli aelod arall o’r teulu gan y byddai’n deall sut rydych chi’n teimlo. Efallai y bydd yn fuddiol rhannu eich atgofion o’ch anwylyd. Bydd eich teulu hefyd yn galaru, felly gall hyn eu helpu hefyd
  •  Gall ffrind agos hefyd fod yn wrandäwr da, hyd yn oed os nad yw wedi profi profedigaeth ei hun.
  •  Mae sawl llinell gymorth a fydd yn gallu eich helpu, gan gynnwys Childline, Cruse Bereavement, Hope Again a Meic.

Mae’n bwysig iawn i ofalu amdanoch eich hun (yn gorfforol ac yn emosiynol) yn ystod y cyfnod hwn.

  •  Bydd ymarfer corff rheolaidd a bwyta’n dda yn rhoi lle meddwl i chi brosesu eich teimladau.
  •  Cymerwch amser bob dydd i ymlacio, gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau a meddyliwch am sut rydych chi’n teimlo.
  •  Gallech ysgrifennwch neu greu celf wedi’i hysbrydoli gan eich atgofion neu’ch teimladau am y sawl sydd wedi marw.
  •  Ysgrifennwch lythyr wrth y sawl sydd wedi marw i ddweud wrtho y pethau rydych chi am eu dweud wrtho.

Mae gennym hefyd adnoddau isod yr ydym yn argymell eich bod yn edrych arnynt.