Mae angen cyswllt ystyrlon gyda phobl eraill arnom. Mae’n gwneud i ni deimlo’n ddiogel, ac fel bod rhywun yn meddwl amdanom.

Pan nad oes gennym hyn, mae’n normal i deimlo’n unig.

Gydag unigrwydd gallwch deimlo eich bod ar eich pen eich hun pan nad ydych eisiau bod ar eich pen eich hun neu deimlo eich bod ar eich pen eich hun hyd yn oed pan fyddwch gydag eraill. Mae gwahanol bobl yn profi hyn yn wahanol.

Weithiau rydyn ni’n hoffi bod ar ein pen ein hunain. Mae hyn yn wahanol i unigrwydd gan ein bod yn dewis treulio amser ar ein pen ein hunain.

Os ydych chi’n teimlo’n unig, mae’n bwysig dweud wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhieni neu’ch meddyg teulu.

Beth sy’n achosi unigrwydd?

Mae llawer o achosion gwahanol o unigrwydd, ac weithiau efallai na fyddwn yn deall pam ein bod yn teimlo’n unig.

Efallai y byddwch yn fwy tebygol o deimlo’n unig os ydych:

  • heb ffrindiau na theulu
  • yn gofalu am rywun arall
  • yn byw yn rhywle heb bobl debyg i chi
  • yn methu gwneud gweithgareddau cymdeithasol oherwydd arian

Gall pethau sydd wedi digwydd yn eich bywyd hefyd wneud i chi deimlo’n unig:

  • Symud i le newydd heb ffrindiau
  • Dechrau ysgol newydd
  • Os bydd rhywun sy’n agos atoch yn marw
  • Ffraeo gyda ffrindiau
  • Gofalu ar gyfer aelod o’r teulu
  • Mae rhai pobl yn teimlo’n unig ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Cyfryngau cymdeithasol ac unigrwydd

Gall y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg hefyd achosi unigrwydd.

Er y gall y cyfryngau cymdeithasol ein helpu i gwrdd â phobl newydd, ni all gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb go iawn.

Gall gormod o gyfryngau cymdeithasol yn lle cyswllt wyneb yn wyneb wneud i ni deimlo’n fwy unig.

Beth galla i ei wneud?

Mae teimlo’n unig yn normal. Mae pawb yn teimlo’n unig ar ryw adeg.

Nid problem iechyd meddwl mohono, ond gall teimlo’n unig effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gall wynebu problemau iechyd meddwl hefyd wneud i chi deimlo’n unig.

Mae gan Gymdeithas y Plant restr o awgrymiadau ar sut i ymdopi ag unigrwydd a’i oresgyn:

Weithiau rydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n teimlo’n agos iawn at bobl.

Gall hyn ddigwydd er ein bod yn adnabod llawer o bobl Gallai fod yn ddefnyddiol siarad am sut rydych chi’n teimlo gyda ffrind neu aelod o’r teulu. Gallech hefyd siarad ag oedolyn arall yr ydych yn ymddiried ynddo, fel eich athro neu’ch meddyg.

Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod, ffoniwch Meic Cymru – sef llinell ffôn y gall unrhyw blentyn neu berson ifanc yng Nghymru ei ffonio am ddim i siarad am unrhyw beth sy’n eu poeni.

Rhowch gynnig ar ysgrifennu neu dynnu llun o sut rydych chi’n teimlo. Sut rydych chi’n teimlo wedyn?

Gallai hyn helpu i egluro eich teimladau os byddwch yn siarad â rhywun arall. Gallech hyd yn oed roi cynnig ar ysgrifennu neu dynnu llun o’ch teimladau a’i ddangos i rywun arall, fel eich rhieni.

Gall bod allan a gweld pobl eraill eich helpu i deimlo’n well. Ceisiwch sylwi ar y golygfeydd, y synau a’r arogleuon.

Gall hynny eich helpu i ymlacio. Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth newydd neu’n cwrdd â rhywun rydych chi’n ei adnabod.

Gall dechrau hobi newydd gadw eich meddwl yn brysur a’ch helpu i gwrdd â ffrindiau newydd sy’n hoffi’r un pethau â chi.

Gallech ofyn i rywun rydych chi’n ei adnabod beth maen nhw’n hoffi ei wneud neu edrych ar y rhyngrwyd am syniadau.

Gall teimlo’n unig effeithio ar eich lles. Gall hyn ei gwneud yn anos ceisio gwneud newidiadau i’ch bywyd.

Edrychwch ar ein tudalennau hunangymorth am gyngor.