Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Mae angen help arna i nawr
Mae bywyd yn llawn newid.
Mae’n digwydd i ni i gyd! Rydym yn newid ein cartrefi, ein hysgolion, ein ffrindiau – hyd yn oed ein dillad, gwallt a blas mewn cerddoriaeth.
Mae newid yn ein helpu i roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â gwahanol bobl. Heb newid, byddai bywyd yn ddiflas!
- Weithiau rydyn ni’n disgwyl Mae hyn yn golygu ein bod yn gwybod ei fod yn dod ac y gallai effeithio arnom.
- Ar adegau eraill, mae newid yn annisgwyl – gall hyn deimlo’n frawychus gan na allwch baratoi ar ei gyfer i’r un graddau.
Fel plentyn, gall llawer o bethau yn eich bywyd newid allan o’ch rheolaeth.
Gall hyn fod yn anodd ei ddeall a delio ag ef.
Mae newid yn beth ychwanegol i feddwl amdano ar ben bywyd normal. Dyma rai awgrymiadau i helpu i ofalu amdanoch eich hun pan fydd pethau’n newid:
- Dilynwch eich trefn arferol – bydd peidio â gorfod meddwl beth i’w wneud nesaf yn eich helpu i ymlacio
- Ceisiwch dreulio amser yn yr awyr agored neu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu
- Cysgwch ddigon
- Cymerwch amser i ymlacio yn ystod y dydd
- Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo
Mae newid yn rhan o fywyd, felly mae gallu ymdopi â newidiadau yn bwysig iawn.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd, mae digon o wasanaethau a all eich helpu.