Ydych chi angen siarad â rhywun am eich lles emosiynol?
Fel plentyn, rydych chi’n tyfu’n gyflym iawn. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen mwy o gwsg arnoch na phobl eraill yn eich teulu.
Mae’n rhoi egni i chi ar gyfer y diwrnod canlynol ac yn eich helpu i deimlo’n well!
Gall hefyd helpu gyda phopeth rydych chi’n ei ddysgu yn yr ysgol ac yn y cartref. Mae’n eich helpu i feddwl yn well a chofio mwy.
Os ydych yn cael trafferth cysgu, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel rhiant, gofalwr neu feddyg.
Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n cael digon o gwsg?
Gall fod yn hawdd dweud pryd mae angen mwy o gwsg arnoch.
Os nad ydych yn cysgu’n ddigon, efallai y byddwch yn:
- Ei chael hi’n anodd deffro
- Ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn ystod y dydd
- Teimlo mewn hwyliau drwg neu’n drist
Dylech geisio cael rhwng 8 a 10 awr o gwsg bob nos i’ch helpu i gadw’n heini ac yn iach.
Awgrymiadau i’ch helpu i gysgu
Mae llawer o blant yn mynd drwy adegau pan fyddant yn ei chael hi’n anodd cysgu.
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu:
- Cymerwch gawod neu fath a gwnewch eich hun yn glyd yn eich dillad nos.
- Ceisiwch fynd i’r gwely ar yr un amser bob nos
- Cewch fyrbryd ysgafn neu wydraid o laeth
- Ewch â rhywfaint o ddŵr i’r gwely gyda chi
Ceisiwch roi’r gorau i edrych ar sgriniau fel gemau fideo, teledu a ffonau yn syth cyn y gwely.
Gallant dynnu eich sylw a’ch atal rhag syrthio i gysgu.
Llenwch eich ystafell wely gyda phethau sy’n eich ymlacio.
Ceisiwch waredu unrhyw beth a allai eich cadw’n effro, gwneud sŵn neu wneud i chi deimlo dan straen.
Os oes rhywbeth ar eich meddwl yn eich cadw ar ddihun, ceisiwch ei ysgrifennu. Gall helpu i glirio eich meddwl.
Gall digon o ymarfer corff eich helpu i gysgu.
Ceisiwch beidio â gwneud llawer gyda’r nos gan y gallai hynny eich cadw’n effro!