grahamcone

Addurno Coeden Nadolig

Tra bod y rhan fwyaf o bobl yn edrych ymlaen at y Nadolig gall fod yn gyfnod anodd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n cael trafferthion bwyta. Er bod pawb eisiau mwynhau’r gwyliau, mae anawsterau cynyddol yn brofiad cyffredin iawn yn y cyfnod sy’n arwain at ddigwyddiad sydd â chymaint o bwyslais ar fwyd.

Gall ddwysau teimladau o orbryder, dicter a gofid a all fod yn llethol. Gall y newidiadau mewn trefn a’r gallu i ragweld beth fydd yn digwydd wneud pethau’n anoddach hefyd, felly rydym wedi llunio rhestr o ffyrdd o wneud y Nadolig yn haws.

Mae yna lawer o newidiadau i’r drefn dros y Nadolig a gall fod yn heriol newid ein trefn arferol yn llwyr, ond dyna pam ei bod mor bwysig cadw rhywfaint o gysondeb a defnyddio’r strategaethau ymdopi y gwyddoch sy’n gweithio i chi.

Gall peidio â chynhyrfu mewn cyfnod mor brysur deimlo’n gwbl estron ond gall gwneud rhywbeth caredig i chi’ch hun bob dydd fod yn ddefnyddiol iawn i leihau eich meddyliau negyddol. Mae’n wych os ydych chi’n gwybod beth sy’n gweithio’n i chi, ond os na wyddoch, dyma rai syniadau:

  • Chwarae gêm gyda ffrindiau neu deulu
  • Gwneud ymarfer anadlu neu ymwybyddiaeth ofalgar
  • Darllen
  • Gofalu am eich anifeiliaid anwes
  • Ysgrifennu mewn dyddiadur neu gyfnodolyn

Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo a all helpu i’ch cefnogi. Gall fod yn ddefnyddiol eistedd wrth eu hymyl yn ystod prydau heriol fel y gallant eich cysuro a’ch annog.

Os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus, gall fod yn ddefnyddiol siarad â’r bobl y byddwch chi’n treulio amser gyda nhw am sgyrsiau a allai achosi gofid i chi. Gallai hyn gynnwys sylwadau am eich ymddangosiad, dognau neu fwyd, neu hyd yn oed sgyrsiau di-fudd am addunedau blwyddyn newydd gan gynnwys deiet, pwysau neu ymarfer corff. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl cael y sgwrs hon ymlaen llaw, felly os bydd rhywun yn dweud rhywbeth sy’n peri gofid i chi gallech ddweud ‘Nid yw hynny’n beth defnyddiol i’w ddweud wrthyf ar hyn o bryd’.

Er bod y Nadolig yn gallu bod yn heriol, mae yna rai pethau gwych i’w mwynhau o hyd, a gallent helpu i dynnu eich sylw! Gall gwneud rhai o’r gweithgareddau hyn yn syth ar ôl bwyta fod yn ddefnyddiol iawn, ac mae’n wych cael rhai gweithgareddau Nadoligaidd i edrych ymlaen atynt nad ydynt yn seiliedig ar fwyd. Gall gweithgareddau sy’n cadw’ch dwylo’n brysur fod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau nad ydych yn canolbwyntio ar feddyliau di-fudd. Dyma rai syniadau:

  • Addurno’r tŷ a’r goeden Nadolig
  • Mynd i wasanaeth carolau
  • Gwrando ar gerddoriaeth Nadolig
  • Chwarae gemau bwrdd
  • Mynd i farchnad Nadolig
  • Gwneud torch Adfent
  • Gwneud cardiau neu anrhegion Nadolig
  • Edrych ar eich hoff ffilm Nadolig

Efallai y bydd y Nadolig yn wahanol eleni a gall derbyn hynny fod yn anodd, ond mae’n iawn teimlo’n bryderus neu’n anhapus. Mae yna lawer o bwysau afrealistig i gael y ‘Nadolig Perffaith’ ac os nad ydym yn teimlo’n hapus drwy’r amser fe all deimlo’n siomedig. Rydych chi’n ddewr bob dydd am ddelio â’ch anawsterau bwyta, gan gynnwys ar ddydd Nadolig. Un ffordd o leihau rhywfaint o bwysau’r Nadolig yw treulio llai o amser ar gyfryngau cymdeithasol.

  • Gallai hyn fod yn unrhyw un fel rhiant, nyrs ysgol neu athro, ac efallai y byddant yn awgrymu siarad â gweithiwr proffesiynol.
  • Gall gofyn am help fod yn wirioneddol frawychus ond dyma un o’r arfau pwysicaf wrth frwydro yn erbyn anawsterau bwyta.
  • Gall pethau fod yn anodd ond nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael gan y rhai o’ch cwmpas a chan wasanaethau Lles Meddyliol ac Emosiynol Plant a Phobl Ifanc. Mae gan elusennau gan gynnwys YoungMinds a Beat hefyd lawer o adnoddau ar-lein defnyddiol.