hollytarren

Jane Reid ydw i. Rwy’n ymgynghorydd sy’n cefnogi Partneriaeth Dechrau Da Caerdydd a’r Fro i gyflawni’r Rhaglen EmPOWER.

Mae gen i gefndir mewn ffisiotherapydd plant ac rwyf bob amser wedi teimlo’n frwd dros wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Mae gen i gefndir clinigol, arweinyddiaeth a rheoli rhaglenni hefyd gan weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn bennaf, felly nid yw’n syndod fy mod wedi neidio ar y cyfle i fod yn rhan o’r daith gyffrous hon. 

 

Rhaglen EmPOWER 

Mae’r Rhaglen emPOWER yn rhaglen aml-asiantaeth* ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sydd angen cymorth iechyd a lles emosiynol. 

  • Mae enw’r rhaglen emPOWER (grymuso lles emosiynol) wedi’i greu ar y cyd â phobl ifanc  

Mae amlasiantaeth yn golygu bod gwahanol sefydliadau’n cydweithio am yr un rheswm – i helpu plant a phobl ifanc.  Mae’r timau amlasiantaethol yn cynnwys  

  • Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg; Gwasanaethau Plant, Addysg a Chymorth Cynnar 
  • Gwasanaethau Iechyd  
  • Y trydydd sector

Ble ro’n ni? 

Un o’m tasgau cyntaf oedd deall profiadau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n cefnogi iechyd a lles emosiynol, a oedd yn golygu gwrando ar farn pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.

Roedd hyn hefyd yn cynnwys deall yr hyn sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a lle mae cyfleoedd i wella pethau.    

Mewn ffordd, roedd hi’n teimlo ychydig fel jig-so mewn blwch heb y darlun mawr bryd hynny!

Roedd rhai darnau y ffordd iawn i fyny, doedd eraill ddim a doedden ni ddim yn gwybod a oedd unrhyw ddarnau ar goll.  

Roedd hyn yn golygu nad oedd darlun ar y cyd o’r gwasanaeth Iechyd Emosiynol a Lles ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc ac nid oedd y bylchau’n glir.  

Cafodd y darnau eu troi’r ffordd iawn i fyny dros gyfnod drwy drafod, cynnal gweithdai a chael adborth gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Roedd llawer o’r darnau hyn eisoes yn hysbys ond roedd yn bwysig eu tynnu at ei gilydd i gael y darlun ehangach ac i weld pa ddarnau oedd ar goll. 

Er mwyn cael darlun clir ar y blwch, roedd yn hanfodol ein bod yn gwrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y gwasanaethau. Mae’r isod yn crynhoi’r hyn a glywyd ac yn sail i’r rhaglen. 

Beth oedd o’i le?

  • Yn aml, mae’n rhaid i deuluoedd ailadrodd eu straeon a chael sawl asesiad cyn cael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt; mae angen i’r cyfathrebu rhwng gwasanaethau fod yn well
  • Mae’r rhestrau aros i gael mynediad at wasanaethau yn hir
  • Prin yw’r ddealltwriaeth o rolau a llwybrau i mewn i wasanaethau a thrwyddynt
  • Mae gwasanaethau’n aml yn ddigyswllt ac mae nifer o bwyntiau mynediad a all fod yn ddryslyd

Beth mae pobl ifanc ei eisiau?

  • There is a need for increased joint working at assessment and early intervention stages
  • There is a need to move upstream from a medical/illness model to a wellness/prevention model 
  • Mae pobl ifanc am allu cael gafael ar wasanaethau’n uniongyrchol a chael dewis sut a phryd y mae hyn yn digwydd
  • Maent am gael gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan anghenion – NID diagnosis neu drothwyon
  • Mae angen cymorth ar bobl ifanc tra’n aros i weld gweithwyr proffesiynol
  • Mae angen mwy o gydweithio ar gamau asesu ac ymyrraeth gynnar
  • Mae angen symud i ffwrdd o fodel meddygol/salwch i fodel lles/atal

Roedd hyn hefyd ar adeg pan oedd angen cynyddol am gymorth a oedd wedi’i waethygu gan effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’r timau sy’n eu cefnogi. 

Ble ydyn ni?

Ceir ymrwymiad, brwdfrydedd a llawer o enghreifftiau o arfer da ledled Caerdydd a Bro Morgannwg lle mae gwasanaethau eisoes yn ymgorffori’r egwyddorion hyn. 

Dyma rai enghreifftiau:

  • Y trydydd sector; Gweithiwr cymorth i rieni sy’n darparu cymorth 1:1 i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau arbenigol e.e. gweithredu fel eiriolwr, meddwl sut y gellir cefnogi plant a phobl ifanc, meddwl am eu hanghenion emosiynol eu hunai
  • Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd a gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl cleifion mewnol yn gweithio gyda’i gilydd trwy rôl gweithiwr cymdeithasol cydlynydd i gefnogi rhyddhau’r plant hynny sydd mewn argyfwng yn gynnar ac yn ddiogel
  • Erbyn hyn, mae gan dimau Cymorth Cynnar yng Nghaerdydd a’r Fro ymarferwyr Iechyd Meddwl yn eu timau sy’n galluogi ymarferwyr mewn timau Cymorth Cynnar i “ddal ymlaen” yn hytrach na chyfeirio ymlaen drwy sgyrsiau myfyriol, tra hefyd yn galluogi camu i fyny heb fod angen atgyfeiriadau ychwanegol
  • Ym maes addysg, mae timau cymorth ymddygiad wedi cael eu disodli gan ‘Dîm Iechyd a Lles emosiynol‘ (Caerdydd) a’r Gwasanaeth Ymgysylltu (Y Fro) sy’n defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau ymlyniad, trawma datblygiadol a PPNau sy’n defnyddio dull mwy cynhwysol a rhagweithiol o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol.

Rydym wedi cynnal sawl Digwyddiad Ysbrydoliaeth a Momentwm i:

  • rannu arfer da,
  • herio ffyrdd o feddwl a
  • dechrau llunio’r hyn sydd angen digwydd nesaf i ddechrau rhoi’r jig-so at ei gilydd, ac mae hyn yn gysylltiedig â’r Fframwaith NYTH cenedlaethol a’r angen am berthnasoedd sy’n Meithrin, Grymuso, Diogel a Dibynadwy.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn y rhain yn cynnwys unigolion ar draws y meysydd Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Plant, Cymorth Cynnar a’n partneriaid yn y Trydydd Sector 

Yn seiliedig ar adborth, arsylwi arferion cyfredol ac adolygu arfer gorau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, y blaenoriaethau allweddol yw:

  1. Darparu ymyriadau cynharach a gwasanaethau ataliol i symud i fodel lles 
  2. Ei gwneud yn haws i blant, pobl ifanc a theuluoedd gael gafael ar y cymorth cywir yn gyson heb fod angen ailadrodd eu straeon nac atgyfeiriadau newydd 
  3. Galluogi trafodaethau amlasiantaethol cynharach pan fo hyn o fudd i’r unigolyn 
  4. Lleihau’r galw ar wasanaethau arbenigol iawn;  

Y newyddion gwych yw bod yr angen am y rhaglen hon yn cael ei gydnabod yn Rhanbarthol ac yn Genedlaethol a bod pethau y gellir eu cyflawni yn y rhaglen wedi’u cymeradwyo drwy’r Grŵp Cyflawni Iechyd Emosiynol a Lles a’r Bartneriaeth Dechrau’n Dda. 

 

Jane Reid 

Ymgynghorydd Cyswllt Attai

jane.reid@attain.co.uk