hollytarren

Cafodd y Gwasanaeth Lles Emosiynol, sy’n rhan o Change Grow Live (CGL), ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro yn ôl yn 2016 i ddarparu ymyrraeth gynnar ar gyfer lles emosiynol plant a phobl ifanc sy’n profi symptomau ysgafn i gymedrol. Comisiynwyd y gwasanaeth am dymor y cytunwyd arno, ond oherwydd y pandemig cafodd ei ymestyn oherwydd pwysau gweithredol ar draws y Bwrdd Iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bellach mewn sefyllfa lle mae’r contract wedi’i adolygu ac mae’r broses gaffael ar y gweill i archwilio darpariaeth newydd. Ers sefydlu’r gwasanaeth, mae anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wedi newid ac mae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddatblygu’r gwasanaeth newydd yn seiliedig ar adborth. Bydd BIP Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda phobl ifanc, rhanddeiliaid a staff i gyd-gynhyrchu’r gwasanaeth newydd mewn partneriaeth â’r cyflenwr llwyddiannus.

Disgwylir i’r contract presennol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Emosiynol ddod i ben ar 31 Gorffennaf 2022. Er mwyn prosesu atgyfeiriadau sy’n bodoli eisoes cyn y dyddiad hwn, mae’r penderfyniad wedi’i wneud i atal atgyfeiriadau newydd drwy’r gwasanaeth. Bydd hyn yn sicrhau y bydd plant a phobl ifanc sydd eisoes wedi’u hatgyfeirio yn cwblhau’r broses asesu. Os ydych eisoes wedi cael eich atgyfeirio bydd rhywun yn cysylltu â chi maes o law. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro am y tarfu ar y gwasanaeth hwn yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gwasanaethau ar gael o hyd i unrhyw berson ifanc sy’n chwilio am gymorth ynghylch ei les emosiynol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion ac atgyfeirwyr eraill i ddarparu cymorth iechyd meddwl cynnar i blant a phobl ifanc sy’n profi symptomau ysgafn i gymedrol.

Mae pobl ifanc wedi mynegi diddordeb mewn cael gwasanaeth galw heibio y tu allan i oriau sy’n caniatáu iddynt siarad â rhywun ar unwaith pan fyddant mewn angen. Dros y misoedd nesaf bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’r cyflenwr llwyddiannus, pobl ifanc, staff a rhanddeiliaid ar ddyluniad y gwasanaeth newydd gyda chynlluniau i weithredu hyn erbyn hydref 2022.

Yn y cyfamser, gall plant neu bobl ifanc sydd angen cymorth lles emosiynol barhau i gael gafael arno mewn nifer o ffyrdd:

Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer pobl rhwng 11 a 25 oed. Mae’n cynnwys chwe rhestr chwarae sy’n eich cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i’ch helpu i ymdopi â’r cyfyngiadau symud a’r cyfnod wedi hynny.

Ym mhob un o’r rhestrau chwarae fe gewch wefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth, a llawer mwy i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

Darganfyddwch fwy am y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Mae SilverCloud yn cynnig rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac yn hŷn, sydd â lefelau ysgafn neu gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.

Edrychwch ar y rhestr o raglenni a dewiswch un i’w chwblhau dros gyfnod o 12 wythnos. Cewch adborth bob pythefnos gan Gefnogwr SilverCloud cymwys wrth i chi weithio eich ffordd drwy’r rhaglen.

Darganfyddwch fwy am SilverCloud.

Mae Porth i Deuluoedd Caerdydd yn llwybr atgyfeirio hygyrch i unrhyw un sydd â phryderon lles am blentyn neu sydd am ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd ledled Caerdydd.

Darganfyddwch fwy am Borth i Deuluoedd Caerdydd.

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â phlant 0-18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg, neu sy’n gweithio gyda nhw.

Darganfyddwch fwy am Linell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf y Fro.

Mae gan bob ysgol yn ein hardal nyrs ysgol, sy’n darparu cymorth ar gyfer pobl ifanc ac addysgwyr ynghylch iechyd meddwl, yn ogystal ag ystod o faterion eraill sy’n ymwneud ag iechyd.

Mae nyrsys ysgol ar gael ar gyfer sesiynau galw heibio wythnosol, felly os ydych yn berson ifanc a fyddai’n hoffi cael sgwrs gyda nyrs ysgol, gofynnwch i athro yr ydych yn ymddiried ynddo i drefnu hynny.

Gall pobl ifanc hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth ChatHealth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 4.40pm. Os ydych chi’n 11-19 oed ac yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, anfonwch neges destun at eich nyrs ysgol ar 07520 615718 i gael cyngor a chymorth cyfrinachol. Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener a’r tu allan i oriau, ac mae neges awtomataidd sy’n cynnig manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau eraill.

Gall gweithwyr proffesiynol barhau i ddefnyddio’r ‘Pwynt Mynediad Sengl’ pan fyddant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â heriau lles emosiynol neu iechyd meddwl.

Ffoniwch 02921 836730, i siarad â’r tîm.

Darganfyddwch fwy am ‘Bwynt Mynediad Sengl’ BIP Caerdydd a’r Fro.

Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch ag ewmh@cav.wales.nhs.uk.